Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
28 Chwefror 2022
SL(6)153 – Cod ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Cyhoeddir y Cod Ymarfer hwn o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rhaid i awdurdodau lleol, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, weithredu yn unol â’r gofynion a geir yn y cod hwn.
Mae’r Cod diwygiedig hwn wedi’i ddiwygio i adlewyrchu nifer o gynlluniau iawndal drwy ychwanegu at y rhestrau o fathau o gyfalaf ac incwm y dylid eu diystyru’n llawn yn yr asesiad ariannol ar gyfer codi ffioedd am bob math o ofal cymdeithasol a chymorth. Mae cynlluniau fel arfer yn ddarnau newydd o ddeddfwriaeth a gyflwynir gan lywodraethau yn y Deyrnas Unedig, sy’n gwneud dyfarniadau ariannol i unigolion sydd wedi dioddef niwed, camdriniaeth neu anaf ac sydd i gael taliadau i gydnabod eu dioddefaint.
Y cynlluniau i’w hychwanegu at y Cod yw:
§ Ddeddf Camdriniaeth Sefydliadol Hanesyddol (Gogledd Iwerddon) 2019;
§ Deddf Darparu Iawn i Oroeswyr (Camdriniaeth Hanesyddol Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021;
§ Rheoliadau Taliadau Dioddefwyr 2020;
§ Unrhyw daliadau a wneir o dan y cynllun taliadau ar gyfer cyn-blant mudol Prydeinig a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Yn ogystal, mae nifer o gynlluniau iawndal gwaed heintiedig a chynhyrchion gwaed heintiedig a gymhwysir i berson sydd wedi’i heintio gan gynhyrchion gwaed heintiedig. Y rhain yw'r canlynol:
§ Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru;
§ Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Gogledd Iwerddon.
Mae llunio Cod diwygiedig hefyd yn gyfle i ychwanegu cyfeiriad at ddiwygio rheoliadau codi ffioedd ac asesiad ariannol sydd wedi dod i rym ers yr adolygiad blaenorol. I’r perwyl hwn, cyfeiriwyd at Reoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021 ar y Cod diwygiedig fel y bo’n briodol a Rheoliadau Gofal a Chymorth (Codi Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Fe’u gwnaed ar: Heb ei nodi
Fe’u gosodwyd ar: 4 Chwefror 2022
Yn dod i rym ar: Heb ei nodi